Dreigiau Dinas Emrys

Beth yw'r cefndir?

Ap Cymraeg ail iaith ac adnodd ar-lein i athrawon a disgyblion (11-18 oed) yw Dreigiau Dinas Emrys. Mae'n seiliedig ar stori Gwrtheyrn, y brenin Brythonig o'r 5ed ganrif.

Roedd Gwrtheyrn eisiau codi caer yn Eryri er mwyn gwarchod ei bobl rhag y Sacsoniaid. Yn anffodus, roedd y waliau yn disgyn bob nos ar ôl i'r adeiladwyr fynd adref. Dywedodd bachgen o'r enw Emrys fod dwy ddraig yn ymladd o dan y ddaear ac yn ysgwyd y tir, a dyna ddatrys y dirgelwch.

Efallai fod sôn am ddreigiau yn anghyffredin yn Eryri heddiw ond mae enw'r bachgen yn dal yn fyw yn enw'r bryn, sef Dinas Emrys.

Llwythwch!

Mae Dreigiau Dinas Emrys ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android a gellir defnyddio'r dolennau a ganlyn i'w lwytho. Hefyd mae pecyn i'r wasg ar gael ac mae hwn yn darparu gwybodaeth allweddol am y gêm a'i asedau cyfryngol – gellir ei lwytho drwy ddefnyddio'r botwm a ganlyn.

Adnoddau dysgu

Isod ceir casgliad o adnoddau dwyieithog sy'n atgyfnerthu'r gêm.

Cip ar y sgrîn & fideos