Guto Nyth Brân

Beth yw'r cefndir?

Ap Cymraeg ail iaith i athrawon a disgyblion (5-11 oed) yw Guto Nyth Brân. Mae'n seiliedig ar stori yr athletwr chwedlonol o ardal Pontypridd yn y 18fed ganrif.

Roedd Guto yn byw yng Nghwm Rhondda ac roedd yn gallu rhedeg yn gyflym iawn. Yn y gêm, sialens y disgyblion yw helpu Guto mewn un râs arall drwy sillafu geiriau Cymraeg yn gywir, gyda chymorth ambell anifail ar hyd y ffordd.

Llwythwch!

Mae Guto Nyth Brân ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android a gellir defnyddio'r dolennau a ganlyn i'w lwytho. Hefyd mae pecyn i'r wasg ar gael ac mae hwn yn darparu gwybodaeth allweddol am y gêm a'i asedau cyfryngol – gellir llwytho'r pecyn drwy ddefnyddio'r botwm a ganlyn.

Adnoddau dysgu

Isod ceir casgliad o adnoddau dwyieithog sy'n atgyfnerthu'r gêm.